PRIODAS.

Dydd Mawrth, yr 11eg, yng Nghapel Mawr, Criccieth, gan y Parch William Jones, M.A., unwyd mewn glan briodas Mr. Owen H. Griffith, Castle House, a Miss Jane Jones, Eifion Terrace.

Y gwas ydoedd Mr. Hugh Williams, Shop Goch, Pwllheli (cefnder y priodfab), a gwasanaethwyd fel mowyn gan Miss Lizzie Jones (chwaer y briodasferch). Yr oedd hefyd yn bresenol Mrs Griffith (mam y briodfab).

Ymadawodd y par ieuanc am wyliau i Lerpwl.

Ar yr achlysur dyma fel yr englynodd Iseifion :-

Owen a Sian yn llawen sydd -heddyw,
Mewn llwyddiant di-eilydd;
I'r ddau gwen haul ysblenydd,
D'wno fwy tra'r fodrwy fydd.

Eto o eiddo Glan Islwyn :

Mewn clan amod mwyn yw clymu,—yn uchel
Yn achos y caru :
Megys yr ymgusanu,
'Mhlith y llu sy'n amlhau.

Yr Herald Gymraeg 18/06/1918