FOURCROSSES. "TA TA" TRWY Y TELEPHONE.

Rhyfeddir yn aml wrth glywed am y gwahanol ddefnydd wneir o'r telephone i foddio chwilfrydedd, ond y dydd o'r blaen gwnaed defnydd tarawiadol iawn o'r pellseinydd.

Pan oedd Mr. Morris Thomas (un o blant y Four) ar gychwyn i faes y frwydr gyda'i gatrawd, yr hon wersyllai yn Winchester, deffrodd y meddylddrych ynddo y gallasai gael cytathrach a'i briod a'i blant bychain cyn ymadael a'i wlad, a ringiodd i fyny "Fourcrosses", ac erfyniodd am gael gair a'i deulu, y rhai sydd yn byw dros y ffordd i'r Llythyrdy, ac er fod pellder o gannoedd o filltiroedd rhyngddynt cafodd ei briod a'i blant glywed ei lais yn y telephone yn dymuno yn dda iddynt a sibrwd " Ta Ta."

Pan ddaeth tro Oswald, yr ieuengaf, i gael siarad gyda'i dad, gorchfygwyd teimiadau y tad a gwaeddodd, "Oswald bach." "Peidiwch gwneyd swn crio tada," atebai y plentyn, "yr ydych yn gwneyd i mami grio hefyd."

Rhyfedd y modd y mae cariad yn dangos ei hun.

Yr Udgorn 08/12/1915


ADREF.

Bu Private Morris Thomas (cigydd) adref yr wythnos o'r blaen ar ôl treulio 14 mis yn amddiffyn ei wlad yn y ffosydd yn Ffrainc.

Yr Herald Gymraeg 16/01/1917


Llys Apel y Sir.

Cynhaliwvd yr uchod yn Mhwllheli ddydd lau. Yr oedd yn bresenol Mri. J. E. Greaves (cadeirydd), Dr. O. W. Griffith, Richard Davies, G. Hughes Roberts, T. W. Hughes, T. Griffith, Llew Davies (clerc), Lieut. Cradoc Davies, a Mr. W. E. Williams.

GWRTHOD CAIS CIGYDD.

Apeliai Lieut. Davies yn erbyn esgusodiad amodol i Edward Thomas, Fron Oleu, Llangybi (cigydd), 31 mlwydd oed.

Yn ateb i Mr. Davies dywedai y dyn ei fod wedi prynu busnes Mr. Morris Thomas, Fourcrosses. Yr oedd Mr. Thomas wedi ymuno a'r fyddin ar ddechreu y rhyfel. Talodd 29p am y busnes, yn cynwys cerbyd a'r celfi. Yr oedd ei turnover yn 35p yr wythnos.

Ymddangosai Mr. George Pughe Jones, cyfreithiwr, ar ei ran, a dywedai fod ganddo gwsmeriaid o Lanaelhaiarn i Bwllheli.

Dim esgusodiad, ond nid i'w alw fyny hyd Mawrth 31ain.

Yr Udgorn 28/02/1917