MARW.
Nos Lun, y 24ain cynfisol. bu ,farw'r brawd Mr John Dobson, yn ei breswylfod, Tŷ Capel Salem (A.), ac efe yn 73 mlwydd oed.Yr oedd yn henafgwr o ymddanghosiad urddasol a heinyf, ac wedi cael mwynhau iedhyd da hyd yn lled ddiweddar, pryd y tararwyd ef gan y parlys. Yr oedd yn adnabyddus i gylch eang trwy ei alwedigaeth fel daliwr tyrchod yn y rhanbarth hwn, ac yn hyndd bobJogaidd gyda'i holl gydnabod.
Meddai ar synwyr cyffredin cryf, ac roedd yn foneddwr yn ei ffordd. Yr oedd yn ddiwyd a destlus gyda phob peth yr ymaflai ag ef, ac yn hynod ffraeth ei ddywediadau. Yr oedd yn un o ddiaconiaid eglwys Salem esr rhai blynyddau (yr hynaf erbyn hyn), ac yn ymdrechgar a ffyddlon gyda'r achos. Yn ddiameu fe ga'r eglwysi golled nid bychan yn ei farwolaeth. Gellir dweyd iddo weithio ei dymor maith allan yn hynod ddiwyd yn mhob cyfeiriad.
Claddwyd ddydd Gwener, 28ain, yn Abererch (angladd anghyhoedd)
Cydymdeirnlwn a'i briod a'r teulu lluosog yn eu profedigaeth.