MEWN YSBYTY.

Hysbyswyd fod Mr. Henry Roberts, Madoc Street, mewn ysbyty yn Llandudno, oherwydd rhyw anhwyldeb ar ei droed.

Mae wedi ymuno a'r fvddin er Hydref diweddaf, ond ni chafodd ei symud i Winchester gyda bechgyn eraill.

Eiddunwn iddo adferiad buan.

Yr Herald Gymraeg 29/06/1915


O FFRAINC.

Calondid i ni oedd gweled y Milwr Harry Roberts Madoc Street, adref am ychydig seibiant o Ffrainc. Er wedi bod mewn ysgarmesoedd celyd parha i edrych yn gampus.

Pob amddiffyniad fyddo drosto eto ymlaen.

Yr Herald Gymraeg 17/09/1918