Adref.

Da gennym weled Mr Owen Roberts 7, Madoc Street, adref eto yn ein plith.

Ymrestrodd i'r fyddin yn 1915, a gwelodd ymladd caled yn Ypres, lle y cafodd ei glwyfo yn ei fraich.

Bu mewn ysbyty am ychydig, ac ar ol gwella cafodd ei yrru i waith cad-ddarpar yn Lerpwl.

Da gan ei gyfeillion ei weled yn edrych mor rhagorol.

Y Dinesydd Cymreig 07/11/1917