MARWOLAETH.
Boreu Sul o'r blaen bu farw yr hen f rawd Mr. R. Williams. Ty Capel, M. C. yn 76 mlwydd oed, wedi cystudd maith a blin, yr hyn a ddioddefodd yn dawel a dirwgnach.Yr oedd wedi bod yn gofalu am yr adeiladau yma am flynyddau lawer, a hyny gyda'r boddhad mwyaf. Yr oedd trefnusrwydd bob amser yn nodwedd amlwg ynddo.
Hefyd bu am flynyddau lawer mewn gwasanaeth gyda Mr. H. J. Williams (Plenydd), yn Hafod- lon, yr hwn bob amser gyda'r teulu, ddangosant barch mawr tuag ato.
Claddwyd ef dydd Mercher, yn Mynwent Llanarmon. Angladd anghoeddus. Cydymdeimlir a'r teulu oll yn eu trallod.