MARW FFERMWR ADNABYDDUS.
Ddydd Sul bu farw Mr. Robert Griffith Plas Bel, Fourcrosses, yn 70 mlwydd oed.Yr oedd yn ddiacon gyda'r Annibynwyr ers dros 50 mlynedd, ac yn un o arweinwyr yr enwad yn y sir. Bu yn llywydd y Cyfarfod Chwarterol am rai blynyddau.
Herald Gymraeg 01/12/1914
HENAFGWR.
Yn ddiweddar, bu cynhauaf angau yn doreithiog yn ein goror. Wedi maith rodio'r glyn eto'n siriol, aeth Mr. Robert Griffith, Plas Bel. Orosodd a'r "gwaelod dan ei droed." Gwr llednais, doeth, tawel, a duwiolfryd, oedd efe.O ran credo grefyddol, Annibynwr deallus a selog, ydoedd. Am dymor hir, bu'n flaenor ac arweinydd y gan yn Salem, Fourcrosses. Ac yn sicr, bu'n "ffyddlon yn yr holl dy."
Yr oedd yn gerddor medrus, yn ysgrifenwr rhyddiaeth llyfn, ac yn gywrain fel celfyddydwr. Anrhydeddodd hefyd amryw swyddi pwysig yn ei gyfundeb. Melus yw hun y gweithiwr.