LLYS APEL Y SIR.

EISTEDDIAD YN PWLLHELI.

Cynhaliwyd yn Pwllheli dydd Llun, Gorphenaf 16eg.

Yr oedd yn bresenol Mr. J. E. Greaves (Cadeirydd) Dr. O. Wynne Griffith Mri. Richard Davies J. Owen G. Hughes Roberts R. T. Jones; Llew Davies (Clerc) Lieut. C. Davies a W. E. Williams.

Gwrthwynebai y Cynrychiolydd Milwrol esgusodiad amodol a ganiatawyd gan Lys Apel Lleyn, i W. M. Parry, Plas Belle, Fourcrosses, (Teiliwr).

Dywedai Mr. Davies, fod Mr. Parry, yn 34 mlwydd oed. Gwnai werth 500p o fasnach yn y flwyddyn.

Ategai Mr. Parry, fod ei ddau frawd yn Firainc, ac yr oedd yntau yn amaethu Tyddyn bychan. Hydref 31.

Yr Udgorn 18/07/1917