YMUNO A'R FYDDIN.

Ymunodd un a'r fyddin oddiyma yr wythnos ddiweddaf, sef Mr. Henry Davies, Factory, Rhydygwystl.

Aeth i Landudno at ei gatrawd ddydd Llun, Mawrth 29ain.

Yr Herald Gymraeg 13/04/1915


HEDDGEIDWAD.

Mae'r cyn filwr Mr. Henry Davies, Factory Terrace, Rhydygwystl, yn un o'r ymgeiswyr am fod yn heddgeidwad yn Birmingham. Cofir iddo fod ynghanol yr ymladd ffyrnicaf yn Ffrainc, a chafodd ei glwyfo'n drwm amryw weithiau.

Ein hyder yw y bydd iddo lwyddo, gan ei fod yn gwir deilyngu y swydd.

Yr Herald Gymraeg 20/05/1919


HEDDWAS.

Bu'r brawd Mr. Henry Davies, Factory Terrace, Rhydygwystl, yn llwyddianus i gael y swydd o heddwas yn Birmrngham.

Mae wedi dechreu ar ei waith. Dymunwn iddo bob hapusrwydd a llwyddiant.

Yr Herald Gymraeg 10/06/1919