Marwolaeth.

Bore dydd Gwener, y 14eg cyfisol, yn ei breswylfod, bu farw Mr Robert Owen, Ynysfawr, yn 91 flwydd oed.

Yr oedd yr ymadawedig yn aelod ffyddlon o eglwys Ebenezer ers Diwygiad mawr 1859. Yr oedd hefyd yn ffyddlon iawn yn yr Ysgol SuI, ond yr oedd wedi cael ei gaethiwo oherwydd henaint ers rhai blynyddoedd bellach.

Dodwyd ef i orffwvs ym mynwent St. Cawrdaf, Abererch, dydd Iau diweddaf, Angladd cyhoeddus ydoedd.

Gedy i alaru dri mab a merch. Cydymdeimla yr holl ardal gyda hwynt ym marwolaeth eu tad.

Y Dinesydd Cymreig 26/09/1917


ROBERT OWEN, YNYS FAWR.

Nid i'r haeddianol, bob amser, y rhoddir teitl, er mai yr haeddianol sydd a lleiaf ei angen am dano. Un o wyr yr enwau syml oedd yr henafgwr gleddid yn Aber Erch y dydd o'r blaen. Cafodd oes faith, a bu byw yn dda, yn ol y goleuni a rodded iddo. Cofia Ebenezer, Fourcrosses, yn hir am wên heulog, ac "Amen" wlithog yr hen flaenor.

Yr oriel gwawl, yr heulog wên-yn ddydd
Ynddo Ef, droi'n llawer.
A chân ddi glwy mwy, "Amen"
Brwd hyawdl, Robert Owen.
                                CYBI.

Yr Udgorn 17/10/1917