FOURCROSSES MARW.
Boreu Mawrth, 25ain cynfisol, wedi rhai misoedd o gystudd caled, bu farw'r chwaer hynaws, Mrs. Kate Gough, annwyl briod Mr. John Gough Tyddyn Sachau. Yr oedd yn ferch i'r diweddar Mr. William Owen. o'r un lle, yr hwn fu'n ddiacon, ac yn ddechreuwr y gan yn Ebenezer (A). Abererch, am flynyddau lawer, ac yn gefn mawr i'r achos yn y lle.Dygasid hi i fynny mewn teulu gwir crefyddol, ac amIwg oedd effeithiau yr awyrgylch iachus ar ei chyfansoddiad. Yr oedd llawer o nodweddion gwerth i'w hefelychu yn ei chymeriad, a llanwodd ei lle yn y cylch teuluaidd fel gwraig yn llawn ystyr y gwir, yn drefnus a ofalus, ac ymhyfrydai mewn diwydrwydd, fel mai gwaith oedd ei phleser. Yr oedd yn meddu cymeriad dilychwin ar hyd ei hoes, ac yr oedd ei bywyd glan, di-ymffrost gyda'i hymarweddiad prydferth yn llefaru'n effeithiol.
Yr oedd yn aelod ffyddlon o eglwys (A) Ebenezer felly o'i mebyd. Yr oedd o dymer serchog ac addfwyn, ac yn siriol gyda phawb o'i chydnabod, ac yn ddiameu y bvdd i'r eglwys a'r ardal yn gyffredinol deimlo'n chwith iawn o'i cholli.
Gellir dweyd am dani ei bod wedi cyrraedd.
Lle nad oes neb yn glaf na gwan,
Na neb yn marw yn un man.
Cymerodd yr angladd le ddydd Sadwrn, yn Abererch.
Cydymdeimlwn yn y modd dyfnaf a'i hanwyl briod, a'r teulu oll yn eu procael "sub" go sylweddol i wyr y cyrddau profedigaeth chwerw.