MARWOLAETH.

Ddydd Iau diweddaf, ac efe yn wyth mlynedd a deugain oed, bu farw Mr. David Thomas Jones, prif athraw ysgol newydd Fourcrosses, ac ysgol Plas Gwyn cyn hyny.

Brodor o'r Bermo ydoedd, a bu'n ysgolfeistr yn St. Clear's, Caerfyrddin, cyn ei benodi'n athraw ar ysgol Plas Gwyn wyth mlynedd yn ôl. Yr oedd yn aelod o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon, a bu'n llywydd cangen Caernarfon o'r undeb hwnw.

Claddwyd ei weddillion yn Llanaber, y Bermo, ddydd Sadwrn diweddaf.

Yr Udgorn 28/01/1914


Marwolaeth a Chladdedigaeth Mr. David Thomas Jones, Ysgolfeistr, Four Crosses.

Wedi hir nychdod a chystudd bu farw y diweddar Mr. Jones yr 20fed cyfisol, yn 48 mlwydd oed.

Penodwyd ef tua 15 mlynedd yn ôl yn athraw i Ysgol Plas Gwyn yn mhlwyf Abererch. Llafuriodd yn galed a chyd wybodoI, a dyrchafwyd yr ysgol i'r dosbarth cyntaf o ysgolion elfenol yn y sir. AnamI y gwelid neb yn fwy ymroddgar i'w waith nag ef. Yn ddiweddar, hawdd gweled fod ei iechyd yn pallu, er hyny pan agorwyd yr ysgol newydd, awyr-agored, yn Four Crosses, trosglwyddwyd ef yno fel ei phrif-athraw. Yr oedd dilyn yr ysgol yn gyson yn galedwaith iddo, oherwydd cyflwr anffafriol ei iechyd.

Tua dechreu y flwyddyn aeth am dro i ymweled a'i fam a'i frawd i'r Bermo, a dychwelodd erbyn dechreu yr ysgol, ond bu farw yn bur sydyn y dyddiad a nodwyd.

Awd a'r arch i'w hen gartref yn y Bermo mewn motor-car ar y 23ain cyfisol, ar ôl gwasanaeth byr yn y tŷ gan y Parch. W. Jones, gweinidog y Methodistiaid yn Four Crosses. Trefnwyd plant yr ysgol yn orymdaith, a gorchwylwyr yr ysgol, a chanlynwyd gan dorf fawr. Rhoddwyd torch flodeu y plant ar arch eu hen athraw.

Dranoeth claddwyd ef, yn mynwent Llanaber, Mr. Jones, Four Crosses, eto yn gweinyddu yn y tŷ, a Rheithor y Bermo, y Parch. W. J. Williams, curad, a'r Parch. J. Davies, rheithor Llangybi a Llanarmon, yn gweinyddu. Yn ystod ei afiechyd hir, bu ei frawd, Mr. Sam. Jones, Bermo, yn frawd caredig iddo, yn wir gwnawd pob ymdrech gan ei deulu, ei wraig yn Four Crosses, a'i fam yn y Bermo, i esmwythau ei fywyd, ond yn ofer.

Cydymdeimlir yn fawr a'i weddw alarus a'r tair geneth fach ar ôl priod ymdrechgar a thad tyner, ac â'r fam â'r brodyr yn eu galar. Gorwedd ei weddillion yn mynwent Llanaber, yn sŵn dolefus y mor.

Daeth lluaws o'r perthynasau ynghyd o wahanol barthau o Gymru i dalu eu teyrnged olaf o barch i'w goffadwriaeth. Yn eu plith gwelsom Mr. Richard Ellis, Strata Florida; Mr. John Jones a Miss Jones, Lledrod cefnder o Morganwg, ac amryw eraill.

Huned mewn hedd.

Gohebydd.

Y Llan 30/01/1914