MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.
Nos Fawrth, y 12fed cyfisol, ar ol cystudd maith, bu farw Miss Ann Jones, Tyddyn Meilir, yn 83 mlwydd oed.Dydd Gwener rhoddwyd yr hyn oedd farwol ohoni i orphwys yn mynwent y Plwyf. Angladd anghyhoedd ydoedd. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parchn. Owen Lloyd Owen, Pontypridd (un o blant yr ardal), Hugh Davies, a Morgan Price, y gweinidog. Yn yr eglwys a'r fynwent gwasanaethodd y Parch J. Edwards, B.A., Ficer Pwllheli, yn absenoldeb Ficer y Plwyf. Yn mysg perthynasau Miss Jones oedd yn ei chyrhebrvvng yr oedd tri gweinidog perthynol i'r Annibynwyr, set y Parchn William Pierce. Llundain, J. G. Jones. Cana, Môn, a Griffith Jones, Llanelli, De Cynuu.
Yr oedd y chwaer ymadawedig yn un dawel a charedig, ac yr oedd ganddi fawr ofal calon am yr achos Annibynol yn y Capel Ucha, ac un o'r gweithredoedd da olaf a gyflawnodd oedd cyfranu rhodd haelionus iawn at draul adgyweirio y capel.
Yn ei marwolaeth collwyd yr olaf o deulu lluosog Tyddyn Meilir, teulu fu am flynyddau meithion yn gynorthwyol iawn i achos crefydd yn mhlith yr Annibynwyr yn yr ardal. Yr Un a roes hyn yn eu calonau hwy a all roddi yn nghalonau eraill ar eu hol.