FOURCROSSES MARW.
Y dydd Mawrth o'r blaen, ym mynwent Abererch, rhoddwyd i orwedd weddillion y chwaer, Miss Ellen Hughes (gynt o Brynawelon, ger Plasgwyn), a hi yn 72 mlwydd oed.Oherwydd gwaeledd yr oedd wedi myned o'r ardal ers tair blynedd i Benygroes, ac ymddengys iddi fyned o'r lle hwn eto at ei brawd, Mr. Hugh Hughes, Harlech, lle y cafodd pob nodded a charedigrwydd i ddiweddu ei hoes.
Bu fyw y rhan helaethaf o'i hoes yn yr ardal, ac felly yn gydnabyddus a phawb. Bu'n aelod ffyddlon o Eglwys Ebenezer (M.C.), a hynny er pan yn ieuanc iawn, ac yr oedd gair da iddi gan bawb.
Cydymdeimlir a'r perthynasau oll.