MARW.

Ddydd Gwener, 12fed cyfisol yn Ivy Leigh House, Criccieth, bu farw Mr. Tom Parry, fu am amryw flynyddau yma, yn gwasanaethu gyda Mr. William Walter Jones, dilledydd.

Brodor o Fethesda ydoedd. Yr oedd ers rhai misoedd bellach wedi ymuno a Chymdeithas y Groes Goch, ac yn cael ei addysgu yng Nghriccieth, lle y tarawyd ef yn wael. Bu yn arweinydd amryw gorau ac yn ysgrifenydd cyfarfodydd llenyddol. Yr oedd yn fawr ei barch gan bawb.

Chwith iawn genym ei golli.

Herald Gymraeg 23/02/1915