YNADLYS PWLLHELI.
Cynhaliwyd dydd Mercher. Ar y fainc Cyrnol Lloyd Evans (cadeirydd) Mri. Claud Lloyd Edwards, W. Anthony, Maurice Jones, Dr. Gwenogfryn Evans, G. Hughes Roberts, W. Thomas, W. W. Griffiths a J. Hughes Parry.TROI TENANT ALLAN.
Gofynodd Mr. Arthur Williams am archeb i orfodi William Jones, Clogwyn Llwyd, Yokehouse Pwllheii i symud o'r fferm perthynol i Mr. Williams a'i frodyr a'i chwiorydd.Ymddangosodd Mr. Cradoc Davies ar ran y tenant a dywedai nad oedd yn gwrthod ymadael, ond ei fod yn ceisio dod i gytundeb, a'r tenant oedd yn dod yno yn ei le.
Dywedodd nad oedd gan y tenant dŷ arall i fyned iddo. Pasiwyd i ganiatau y warant i'w droi o'r tŷ cyn pen 21 diwrnod.