DIFLANIAD SYDYN.
Mae Miss Sarah Griffith, Creigiau, Yokehouse, ger y dref ar goll er dydd Iau cyn y diweddaf.Ymadawodd o'r ty tua haner awr wedi un-ar-dideg yr hwyr, ac er fod yr heddlu ac eraill wedi gwneyd pob ymohliad ni chlywyd dim o'i hanes hyd yr adeg yr ydym yn ysgrifenu.
Yr oedd yn 77 mvwydd oed ac yn byw ei hunan yn y bwthyn uchod.
Herald Gymraeg 19/01/1915
CAEL CORFF MEWN CAE.
Ddydd Sul canfuwyd corff Sarah Griffith, hen ferch a drigai yn Creigiau Yokehouse, mewn cae ger Trallwyn.Yr oedd y drancedig dros ddeg a thrigain oed, ac ar goll ers tua thair wythnos.
Clywyd hi gan y cymdogion yn gadael ei thŷ yn hwyr iawn un noson, ac nis gwelwyd mohoni ac nis clywyd gair yn ei chylch wedi hyny nes y caed ei chorff fel y crybwyllwyd eisoes.
Yr Udgorn 27/01/1915
CAEL CORPH MEWN MAES.
Ar Goll am Ugain Diwrnod.
Brydnawn Llun bu i O. Robyns Owen, crwner, gynal trengholiad ym Mhwllheli ar gorph Miss Sarah Griffiths, Creigiau, Yoke-house, yr hon oedd yn byw ar ei blwydd-dal ac yn 77 mlwydd oed.Ymadawodd yr hen wraig o'i thŷ trwy y ffenestr tua deuddeg o'r gloch nos Fercher, ar Ionawr 6ed, ac er i'r Heddwas Jones, Fourcrosses ac eraill wneyd pob ymchwiliad ni chafwvd hyd iddi hyd y Sul diweddaf, pryd y darganfyddodd Mr. David Jones, Lodge Uchaf, Trallwm, hi yn eistedd mewn maes yr adar ac anifeiliaid wedi gwneyd difrod mawr arni.
Tystiodd Mrs. Elizabeth Williams Creigiau, Yokehouse, ei bod wedi siarad a'r ymadawedig ar Ionawr 5ed, a'i chael fel arferol.
Desgrifiodd yr Heddwas Jones gymaint fu ei ymdrech i chwilio am dani. Yr oeddynt wedi crafu pob llyn a chwilio pob coedwig am filldiroedd o bellder. Tystiai Mr. David Jones fel y bu iddo ddarganfod y corph, a bwriwyd iddi farw o achosion naturiol.