MARW BONEDDIGES.
Ddydd Gwener, ar ôl hir waeledd, bu farw y foneddiges adnabyddus Mrs Picton Jones, Yokehause, a hi dros ei 80 mlwydd oed. Gweddw y diweddar Mr Picton Jones, y cyfreithiwr enwog, ydoedd.Yn mlynyddoedd ei nerth cymerai ddyddordeb arbenig yn mywyd cymdeithasol y dref, a cheid hi yn wraig ddeallgar yn holl symudiadau ei bywyd. Cerid hi yn fawr gan foneddigion a thlodion y cwmpasoedd, a bu yn hael a charedig wrth bawb.
Cymerodd yr angladd le, yr hon oedd gyhoeddus, yn mynwent Abererch ddydd Llun. Duw fyddo'n gysur i'w theulu yn eu trallod.
Yr Udgorn 04/07/1917
ANGLADD MRS. PICTON JONES.
Dydd lau, Mehefin 28ain, bu farw Mrs Picton Jones, Yokehouse, a hi yn 80 mlwydd oed. Dydd Llun dilynol cymerodd ei chladdedigaeth, yr hon oedd anghyhoedd, le ya mynwent St. Cawrdaf, Abererch. Gwasanaethwyd gan y Parchn. D. Jones, B.A., Abererch; J. Lewis, B.A., Caersws, a J. Edwards, B A., Pwllheli.Y prif alarwyr oeddynt :-Mrs Lewis (merch); Mr LI. C. Picton (mab), Miss Pryce Picton (wyres); Mrs McDonald (chwaer); Mrs Carreg (chwaer-ynghyfraith), a Mr Charles Jones (Maer Caernarfon).
Rhoddwyd blodeu-dyrch (wreaths) heirdd gan y rhai canlynol —Parch, a Mrs J. Lewis, Caersws; Mr Ll C. Picton; Miss Pryce Picton; Mrs McDonaid; Mrs Carreg; Mrs Carreg McCowan; Mrs Ridout Evans, Torquay; Lady Turner, Caernarfon; Miss Amelia Turner, Caernarfon; Miss Connel; Mr Charles Connel; Mrs Taylor Morgan; Mr a Mrs Arthen O Owen; Miss Williams Bryncrin; Miss Hughes (morwyn).
Gofelid am drefniadau yr angladd gan Mr William Evans, Pwlldefaid.