Marwolaeth Ddisyfyd yn Mhwllheli.

CAEL DYN YN GORWEDD AR EI WYNEB AR GAE.

Oddeutu deg o'r gloch fore Gwener diweddaf tra yr oedd dyn yn myned mewn cerbyd ar hyd Carnarvon Road gwelai rywbeth yn gorwedd ar gae yn ymyl y ffordd. Wedi myned ato canfyddodd mai dyn ydoedd yn gorwedd ar ei wyneb, ac yn ymddangos yn hollol anymwybodol. Deallwyd mai Owen Davies, Abererch Road, ydoedd, yr hwn oedd yn hwsmon yn Yokehouse.

Wedi gwneud yr hyn a allwyd iddo, symudwyd ef i'w gartref.

Yr oeddis wedi bod yn gosod y tir ar ocsiwn yn y lle ddydd Iau, a gwelwyd ef o gwmpas y lle y pryd hyny. Bernir iddo gael ei daraw'n wael yn gynar nos Iau ac iddo fod yn gorwedd ar ei wyneb yn y cae drwy y nos, hyd nes y canfywyd ef foreu Gwener.

Er pob ymgais bu farw nos Wener cyn adfer ei ymwybyddiaeth.

Yr Udgorn 25/02/1914