FOURCROSSES PRIODAS.
Yr oedd dydd Mawrth, y 13eg o Hydref, yn ddiwrnod pwysig yn Fourcrosses. Gwelid banerau yn chwifio yn gynar yn y boreu, a'r rheswm oedd fod un o ferched ieuainc mwyaf rhinweddol yr ardal, sef Miss J E. Thomas. Brynllaeth, yr adroddreg adnabyddus, yn newid ei byd am yr ystad briodasol.Y mae y gŵr ieuanc yn dra adnabyddus mewn cylchoedd crefyddol; yn flaenor yng Nghapel Engedi, ac yn ysgrifenydd y cyfarfod ysgolion. sef Mr. R. Lloyd Roberts, Plas Hen, Llanystumdwy. Cyflawnwyd y gwasanaeth yng Nghapel Mawr, Criccieth, gan y Parchn. W. Jones, M.A., Fourcrosses, ac Alun J. Jones. Chwilog. Y gwas oedd Mr. J. P. Jones, Cefnucha, a'r forwyn, Miss Roberts, Plas Hen.
Aeth y par ieuanc i dreuiio eu mis mêl i Lerpwl, yn cael eu dilyn gyda dymuniadau da llu o gyfeillion.
Aeth "Bob Plas Hen" a Jennie,—heb ryfel,
Drwy brawf y priodi;
Heb ryfel byth i'w brofi,-
Byd o hedd fo'ch anedd chwi.
A mwynion ymhen enyd—
Adroddwyr bach dreiddia'r byd.
Herald Gymraeg 20/10/1914
PRIODAS.
Yr oedd dydd Mawrth, y 13eg o Hydref, yn ddiwrnod pwysig yn Fourcrosses.Gwelid y banerau yn chwifio yn gynar yn y boreu, a'r rheswm oedd fod un o ferched ieuainc mwyaf rhinweddol yr ardal, sef Miss J. E. Thomas, Brynllaeth, yr adroddres adnabyddus, yn newid ei byd am yr ystad briodasol.
Y mae y gŵr ieuanc yn adnabyddus iawn mewn cylchoedd crefyddol, yn flaenor yn nghapel Engedi, ac yn ysgrifenydd y Cyfarfod Ysgolion, sef Mr. R. Lloyd Roberts, Plas hen, Llanystumdwy.
Cyflawnwyd y gwasanaeth yn Nghapel Mawr, Criccieth, gan y Parchn. A Jones, M.A Fourcrosses, ac Alun T. Jones, Chwilog. Y gwas priodas oedd Mr. J. P. Jones, Cefn ucha, a'r forwyn oedd Miss Roberts, Plas hen.
Aeth y pâr ieuanc i dreulio eu mis mêl i Lerpwl, ac yn cael eu dilyn gyda dymuniadau da llu mawr o gyfeillion.