MARW.
Ddydd Iau, Mawrth 18fed, bu farw Mr. William Pritahaird, Ty Uchaf, Rhosfawr, wedi cystudd hir, a maith.Yr oedd yn aelod ffyddlon o eglwys y Bedyddwyr, sef Penuel, Tyddyn Shon.
Claddwyd ddydd LIun, yn Tyddyn Shon (angladd cyhoeddus).
Mawr gydymdeimlir a'r teulu oll.
Yr Herald Gymraeg 30/03/1915
MARWOLAETH.
Ddydd Llun cludwyd gweddillion marwol Mr William Pritchard, Ty ucha, Rhosfawr, i dŷ ei hir gartref.Cafodd cystudd maith, a dioddefodd y cyfan yn dawel.
Yr oedd Mr Pritchard yn adnabyddus trwy Leyn ac Eifionydd fel adeiladydd, ac erys y capelau a'r anedd-dai a wnaeth yn dystiolaeth i'w fedr yn y gelfyddyd hono.
Cydymdeimlir a'i blant a'r perthynasau yn eu galar.
Yr Udgorn 31/03/1915
HUNO GWLADWR.
Gŵr hynaws, siriol, a Christion disorod, oedd Mr. William Pritchard, Ty Uchaf, o'r lle hwn.Bu'n gystuddiol yn hir, ond tawel y dioddefodd, fel un ag yr oedd "profiad ei ffydd yn gweithredu amynedd, etc."
Saer maen ydoedd wrth ei grefft; a Bedyddiwr yn ôl ei gredo crefyddol, yn perthyn i'r eglwys sy'n ymgynull yn Nhyddyn Shon; hen achos henafol ac enwog.
O'r gwaeledd hir, galwodd Ion—wr addfwyn
Gwareiddfoes a ffyddlon;
A'r gŵr sy'n gwisgo'r goron,—
Addien Sant o Dyddyn Shon.