MARWOLAETH.
Gyda gofid yr ydym yn cofnodi am farwolaeth Miss Elizabeth Thomas, yr hyn gymerodd le yn ei phreswylfod yn Tyddyn Dwn, Rhosfawr, foreu Mercher diweddaf, a hi yn 65 mlwydd oed.Nid oedd yn gryf ei hiechyd er's rhai blynyddau, eto daliodd bron hyd y diwedd gyda'i goruchwylion dyddiol. 'Roedd yn foneddiges ddiwyd a gweithgar, ac wedi bod felly ar hyd ei hoes. Yr oedd yn meddu ar gymeriad glan a phur, ac o natur garedig a thyner. Yr oedd yn uchel iawn ei pharch yn yr holl ardal ymhob ffordd o edrych.
Yr oedd yn aelod selog a ffyddlawn yn Eglwys St. Cawrdaf, Abererch. Claddwyd dydd Sadwrn yn mynwent Abererch.
Cydymdeimlir a'r teulu yn eu profedigaeth.