Adref.

Llawen gennym fel ardal weled Mr Howell Williams, Pyllau, adref eto.

Cafodd ei long ei suddo gan gwch tanforawl y gelyn ger yr Iwerddon, a bu ef ac amryw o'i gydforwyr, yn ffodus i gael eu bywyd.

Llawen gan ei gyfeillion ei weled yn edrych mor dda, wedi dod trwy erchyllderau mor fawr.

Y Dinesydd Cymreig 03/10/1917


I'R MÔR.

Dydd Llun, ymadawodd Mr Howel Williams, Pyllau. am yr ail waith i'r mor.

Fel y cofir bu i'w long beth amser yn ôl gael ei suddo tu allan i'r Iwerddon gan fad tanforawl y gelyn, ac i amryw o'r dwylaw foddi. Cafodd yntau, yn ôl fel yr hysbysir, waredigaeth wyrthiol.

Cychwyna y tro hwn gydag agerlong newydd o Glasgow, a dymunwn fel ardal iddo fordaith hapus. Gobeithiwn ei weled ef yn ein plith yn fuan eto.

Yr Herald Gymraeg 30/10/1917