MARW.

Nos Fawrth, yn dra sydyn, bu farw y chwaer Miss Jane Jones, Eifion Terrace, yn 75 mlwydd oed. Yr oedd ers rhai blynyddau yn un o'r pentrefwyr hynaf, ac yn aelod ffyddlon o eglwys Salem (A).

Chwith iawn fydd gan lawer ei cholli. Claddwyd ddydd Sadwrn, yn Llanarmon.

Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu oll.

Yr Herald Gymraeg 14/12/1915