MARW.

Gofidus gennym gofnodi marwolaeth Mr Hugh Edwards, Llainlas, Rhosfawr, yr hyn a gymerodd le y nos Sadwrn o'r blaen, ag efe yn 73 mlwydd oed ar ôl cystudd byr ond caled.

Brodor ydoedd o'r Bala, ac yr oedd yn yr ardal hon bellach ers dros 35 o flynyddoedd.

Gweithiwr diwyd a gonest ydoedd ac yn fawr ei barch gan yr holl ardalwyr. Bu am gyfnod maith mewn gwasanaeth dan y Cyngor Sir yn codi cerryg or gwahanol chwarelau at wasanaeth y prif-ffyrdd, ond oherwydd gwaeledd ei briod gorfu iddo rhoddi'r gwasanaeth hwnnw i fyny.

Yr oedd yn ddyn yn llawn bywyd bob amser. Meddai ar natur dyner, ac yr oedd yn barod iawn i wneyd caredigrwydd a phawb. Yr oedd yn aelod ffyddlon o eglwys Ebenezer CM.

Chwith iawn yw colli hen ardalwyr fel hyn y naill ar ôl y llall, ac yn ddios yr ydym fel ardal yn teimlo hynny. Cymerodd yr angladd le yn Abererch ddydd lau diweddaf (angladd anghyoedd).

Cydymdeimlir a'i weddw yn ei phrofedigaeth lem.

Yr Herald Gymraeg 11/12/1917