MARW.
Gofidus gennym fel ardal oedd deall am farwolaeth Mr. David Jones, Roe Wen Cottages, Felinheli (gynt o Bryngoleu Terrace, Rhosfawr), wedi tair wythnos o gystudd trwm, yn 54 mlwydd oed.Mab i'r ymawedig yw'r Parch W. E. Jones (B.), yr hwn sydd yn gaplan gyda'r fyddin. Bu'r ymadawedig yn byw am flynyddau lawer yn yr ardal hon, ac felly yr oedd yn adnabyddus i gylch eang. Bu'n gwasanaethu mewn llawer o ffermydd o dro i dro yn yr ardal, ac yr oedd yn cael ei ystyried yn gymeriad gonest a gair uchel iddo gan yr holl ardal.
Derbynied y teulu oll ein cydymdeimlad fel ardal yn eu profedigaeth lem.