ER COF.
Blin genym yw gorfod cofnodi marwolaeth y brawd, John Roberts, Ty'r Gof, yr hyn a gymerodd le yn ei breswylfod foreu Llun, wedi cystudd byr ond caled, ac efe yn 77 mlwydd oed.Gwasanaethu y bu y rhan foreuol o'i oes ar y ffermydd, ond yr oedd bellach ers rhai blynyddau yn un o weithwyr y Cyngor Dosbarth ar y ffyrdd plwyfol.
Yr oedd yn gymeriad hoffus, ac yn weithiwr diwyd a gonest. Meddai ar synwyr cyffredin cryf, ac ar chwaeth i ddarllen. Yr oedd yn feddyliol ar gof cryf, yn weddiwr mawr, a chyda llaw yn un o ffyddloniaid yn Ysgol Sul Eglwys Ebenezer M.C., ac yr oedd yr oedd yr achos yn mhob cylch ohono yn agos at ei galon.
Claddwyd ddydd Iau yn Abererch (Angladd anhyhoedd).
Cydymdiemlir a'r tair merch a'r perthynasau oll yn eu mawr alar.
Yr Herald Gymraeg 10/12/1918
Marw.
Dydd Llun 9fed o Ragfyr, yn 77 mlwydd oed, bu farw Mr John Roberts, Ty'r Gof, Fourcrosses.Bu yn fforman ynglyn a Chyngor Gwledig Lleyn am flynyddoedd.