FOURCROSSES.
Deallwn fod y Parch. William Jones, M. A., nos Sabboth diweddaf, wedi rhoddi rhybudd o'i fwriad i ymddiswyddo o fugeiliaeth eglwys y M.C ar ôl gwasanaeth ffyddlawn a didor o 35ain mlynedd.Yn ystod y cyfnod maith hwn enillodd Mr. Jones a'i briod lwyr ymddiriedaeth a pharch yr eglwys a'r cylch yn gyffredinol.
Yr Udgorn 09/06/1915
YMDDISWYDDO.
Nos Sul hysbysodd y Parch Wm. Jones, gweinidog Ebenezer M.C. ei fod yn bwriadu ymddiswyddo o ofalaeth yr eglwys ddiwedd y flwyddyn hon.Mae Mr. Jones wedi bod yn weinidog yr eglwys am bedair blynedd ar ddeg ar hugain ac mae ef a'i briod yn fawr eu parch gan yr ardal.
Mae hefyd yn bregethwr poblogaidd trwy gylch Cyfarfod Misol mewn gwahanol Gyfarfodydd Misol eraill hefyd.
Yr Herald Gymraeg 15/06/1915
CYFARFOD ANRHEGU.
Nos Fawrth, yn addoldy Ebenezer, M.C., cynhaliwyd cyfarfod o'r aelodau i anrhegu'r Parch. Wm. Jones, M.A., y cyn-weinidog, a'i briod Ceridwen Peris ar eu hymadawiad oddiyma i drigfanau yng Nghricieth.Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr. Henry Jones Williams (Plenydd), Hafod lon, gan yr hwn y cafwyd anerchiad yn cynnwys brasluniad o hanes yr achos yn y cyfnod o ddeugain mlynedd o weiniddgaeth Mr. Jones yma. Cyfeiriodd at y lluaws mawr o bobl ieuainc oeddynt wedi troi allan yn llwyddiannus mewn gwahanol gylchoedd o'r eglwys o dro i dro, a hyderai fod dyfodol disglaaer o flaen yr eglwys eto. Cafwyd ton gan y plant, "Y Milwr Bach," dan arweiniad Mr. W. Walter Jones, Shop. Cafwyd anerchiad gan y Parch. Thomas Williams, The Elms, Pwllheli. Teimlai yn dra hapus o gael bod yn y cyfarfod ar yr amgylchiad hwn, am y rheswm mai yn yr eglwys yma y cafodd ei dderbvn yn gyflawn aelod am y tro cyntaf. Rhoddodd gipdrem ar hanes hen flaenoriaid yr eglwys mor fywiog yr oeddynt gyda'r gwaith.
Daethpwyd yn nesaf at brif amcan y cyfarfod, sef cyflwyno'r anerchiad ac arian-nodyn am dros 50p. Cyflwynid yr oll gan y llywydd, yr hwn hefyd a ddarllenodd gynnwys yr anerchiad, yr hwn oedd wedi ei harwyddo gan yr oll o'r diaconiaid. Cafwyd anerchiad gan y Parch. David Robets, Ynys. Yr oedd ef yn adnabod Mr. Jones er yn ieuanc, ac yr oeddynt eu dau yn cael eu harholi yn yr un Cyfarfod Misol fel ymgeiswyr am y Weinidogaeth yn Garnfadryn yn y flwyddyn 1868, a hynny gan dri gŵr dra enwog ar y pryd. Un oedd y diweddar Barch. G. H. Hughes. Rhoddodd air uchel i Mr. Jones fel dyn a chyfaill cywir. Cafwyd can gan Miss Lizzie A. Thomas, Min Eifion, "Neges y Blodeuyn."
Ar ran diaconiaid yr eglwys cafwyd air gan Mr. Thomas Morris, Castell. Cyfeiriodd at ei weithgarwch ef a'i briod trwy y cyfnod y buont yma, gyda'r plant a'r gwahanol gyfarfodydd o fewn cylch yr eglwys. Cafwyd ychydig eiriau pwrpasol gan y Parch. R. R. Jones, Ysbyty (un o blant yr eglwys), a'r Parch. J. Clement Davies (B.) Tyddynshon. Yna caed ton gan y plant, dan arweiniad Frank Williams, Shop.
Mewn ychydig eiriau diolchodd Mr. Jones a'i briod am yr annerchiad a'r rhoddion a'r teimladau da a ddanghoswyd gan yr eglwys a'r ardal tuag atynt. Cyfeilwyd yn y cyfarfod gan Misses Elias, Tŷ Cam Lloyd, Pengamddfa a Mr. F. G. Williams, Shop.