MARW FFERMWR ADNABYDDUS.
Ddydd Iau bu farw Mr. Evan Williams, Llwyndyrus, yn 89 mlwydd oed. Tua thair blynedd yn ôl bu iddo golli ei briod, ac ar ôl hyny ni bu iddo godi allan ond ychydig.Yr oedd yn ffermwr adnabyddus iawn ac yn un o'r rhai mwyaf llwyddianus am fagu ceffylau.
Claddwyd ym mynwent yr Abererch, ddydd Llun (ddoe).
Herald Gymraeg 01/12/1914
HENAFGWR.
Un arall o'n hen wladwyr a ymadawodd oedd Mr. Evan Williams, Llwyn Dyrus.Yr oedd ef yn hysbys a phoblogaidd iawn fel amaethwr, a chymeriad o'r hen stamp, fel y dywedir.
Yr oedd yn elyn anghymodlawn i bob ffug a rhodres; yn ddyngarol naturiol.
Ni throdd grwydryn erioed o'i ddrws, a bu cystal a thad i lawer amddifad.
Hedd i'w lwch, y gwladwr plaen ei air, ond glan ei galon.
Herald Gymraeg 08/12/1914
MARW HENWR HYSBYS.
Ddydd Iau bu farw yr amaethwr adnabyddus Mr Evan Williams, Llwyn Dyrus, ag efe yn 89 mlwydd oed.Hebryngwyd ei wedddion i orffwys yn mynwent Abererch ddydd Llun. Gollyngodd ei afael o "gyrn yr aradr" yn union ar ôl colli cydmar anwyl ei fywyd-" Betsan" chwedl yntau dair blynedd yn ôl, ac er yn orweddiog yr oedd ei feddwl yn hynod bert a bywiog hyd y diwedd.
Eithriad y ceid gŵr wedi ymladd brwydrau bywyd mor llwyddianus. Yr oedd "Llwyndyrus" yn adnabyddus drwy'r wlad fel amaethwr llwyddianus ac un a gymerai ddyddordeb neillduol mewn ceffylau.
Yr oedd yn nodweddiadol am ei gymwynasgarwch a'i garedigrwydd. Cai pob crwydryn groesaw a bwyd a llety rhad yn Llwyndyrus bob amser. Teimlir chwithdod ar ôl cymydog a chymwynaswr mewn ardal, a chydymdeimlir a'i ferch, sef Mrs D. Price, Cil Llidiart, a'r Mri Evan, John a Griffith Williams, ei feibion, yn eu trallod.