MARW.
Brydnawn Mercher, 23ain, bu farw y chwaer Mrs. Mary Elias, Tai Newyddion, Rhosfawr, a hi yn 88 mlwydd oed. Yr oedd yn un o'r rhai hynaf o fewn y cylch, ac yn adnabyddus trwy'r holl ardal gan mai yna y bu'n byw y rhan helaethaf o'i hoes. Yr oedd yn hen chwaer barchus a phoblogaidd gyda pawb o'i chydnabod, ac yn aelod (yr hynaf yn ddiameu) o eglwys Penuel (B.).Mab iddi yw Mr. David Roberts, Tyddyn-ronen, yr hwn sydd yn ffermwr cyfrifol yn yr ardal. Chwith yw colli hen gymeriadau o'r natur yma o'r ardal.
Claddwyd yn Llanor.