MARW.
Bore Mawrth 20fed, bu farw Mr. David Cadwaladr Jones, Tyddyn Ffynnon wedi hir gystudd caled, yr hyn a ddioddefodd yn dawel trwy yr amser.Yn y cyfnod boreuaf o'i oes gwasanaethai mewn amryw ffermydd hyd farwolaeth ei dad pan y daeth i ffermio yn ei gartref, ac yno y bu hyd y diwedd. Ni bu yn gryf iawn ei iechyd erioed. Yr oedd yn gymydog caredig, parod am gymwynas bob amser, yn ŵr o gymeriad pur, gonest, a haelfrydig at bob achos da ac am y gair uwchaf i'w gymdogion, yr hyn oedd yn rhinwedd mawr ynddo.
Yr oedd yn meddu ar chwaeth neillduol i ddarllen, ac hefyd ar gof cryr, ac. yr oedd yn fardd da, a chyfansoddodd lawer o draethodau; etc. o dro i d.ro. Yr oedd yn un o ddiaconiaid hynaf Eglwys M.C. Llwyrudyrus, a hawdd oedd canfod fod yr achos yn agos at ei galon. Mawr oedd ei ddiwydrwydd i wneyd pob rhan o waith yr eglwys yr ymgymerai ag ef yn llwyddiant.
Hefyd, tra caniataodd ei iechyd, bu'n ffyddlon iawn yn mhob cyfarfod ynglyn a'r achos, ac yn ddiameu gwel yr eglwys colled fawr ar ei ôl.
Gyda llaw hefyd, gellir dweyd fod y ddiadell fechan hon wedi colli dynion da, grymus, yn ddiweddar, pa rai oedd yn gynhorthwy mawr i'r achos. Cymerodd yr angladd le yn Carnguwch ddydd Gwener diweddaf.
Cydymdeimlir a'r perthynasau oll.