DAU EISTEDDIAD YN MHWLLHELI.
Cynhaliwyd y Llys Apel Sirol yn y dref ddyddiau Iau a Gwener diweddaf, Mr. J E. Greaves, yr Arglwydd Raglaw, yn llywyddu.ACHOSION FFERMWYR.
Gwnai Robert Roberts, Mynydd Mawr, gais am esgusodiad i'w fab 21 mlwydd oed, yr hwn a esgusodwyd hyd Medi 11eg gan y Llys Lleol heb ganiatad i ail apelio.Yr oedd ganddo 8 o geffylau, 60 o wartheg, a 76 o ddefai.
Yr oedd dau o'i feibion yn gwasanaethu yn y fyddin.
Yn ateb i Mr. Davies dywedai ei tod wedi I methu a chael neb i weithio yn lie y mab. Esgusodwyd hyd Tachwedd 11eg.