YN WAEL.
Gofidus gennym yw deall fod Pte. Willie Roberts, Mynydd Mawr, wedi cael ei gymeryd yn wael yn Ffrainc, a'i fod wedi cael ei anfon i ysbyty filwrol yn y wlad hon. Ymddengys ei fod wedi bod yn cymeryd rhan mewn amryw ysgarmesoedd celyd gyda'r gelyn o dro i dro, a'i fod wedi dod allan yn ddianaf; hefyd, mae brawd iddo, sef Pte. Owen Elias Roberts, ar hyn o bryd yn addysgu milwyr mewn gwersyll yn yr Iwerddon.Dymunwn iddo wellhad llwyr a buan.