MARW.
Dydd Mawrth. 30ain cyfisol, bu farw Mrs Margaret Roberts, priod Mr Griffith Roberts, Bwlch y Ffordd, yn 81 mlwydd oed. Gedy briod a chwech o blant, amryw o wyrion, ac orwyrion i alaru o'i cholli.Bu yn wraig rinweddol ac yn fam ofalus dros ei hoes faith. Gadawodd air cynes i'w chymydogion ar ei hol, a'i chrefydd yn perarogli. Merch ydoedd i'r diweddar Mr Evan Jones, Ty'n y cae, Llwyndyrus, yr hwn oedd yn ddatganwr gwych. Arweiniodd y canu cynulleidfaol yn ei eglwys am gyfnod maith. Iddo ef y cofir ddarfod i'r diweddar Barchedig John Jones, Talysarn, ddangos ei don "Llanllyfni," cyn dyfod o honi i oleu dydd yn y Llyfr Tonau, ar y geiriau "'Rwyf yn terfynu nghred," etc.
Wrth wrando y datganwr yn ei threblu mor felodaidd yn ei dŷ y Sabboth, rhwng yr odfa ddeg a'r un ddau o'r gloch, bu agos i'r pregethwr anghofio ei gyhoeddiad. Cerddodd yn brysur dros ddwy filltir i'r Pentre Uchaf, a'r moddion wedi dechreu cyn i'r seraph parchedig ddod i'r addoldy. Melus ydoedd gan y chwaer ymadawedig son am y pethau gogoneddus a fu. Mae genym seiliau cryfion i hyderu ei bod erbyn hyn yn mwynhau gogoniant mwy rhagorol.
Dodwyd ei gweddillion i orphwys hyd ganiad yr udgorn gan ei hunig fab, a thri o'i hwyrion, Rhagfyr 3ydd, yn mynwent St Beuno, Carngiwch.
Yn Ngharngiwch mae'r llwch yn llechu—'n farwol
Hyd foreu'r adferu;
Daw'n fil gwell o'r ddofn-gell ddu,—ar amnaid
Yn dŷ i'w henaid wedi ei wynu.