DAU GYMRO AR YR EMDEN. DIGWYDDIAD HYNOD.

Ymddengys fod dau forwr o bentref Fourcrosses, ger Pwllheli, ar fwrdd yr agerlong Germanaidd yr Emden pan drechwyd hi yn y cefnfor Indiaidd gan long ryfel Awstraliaidd.

Eu henwau ydoedd David Hughes a Griffith Jones, ac wedi eu magu yn y pentref.

Ymddengys eu bod ar ddwy wahanol long a suddwyd gan yr Emden, a chyfarfyddasant a'u gilydd am y tro cyntaf ers llawer o flynyddau ar fwrdd y llong Germanaidd enwog fel carcharorion rhyfel.

Derbyniwyd pellebr yn hysbysu fod y ddau yn hollol ddiogel.

Y Dinesydd Cymreig 25/11/1914