MARWOLAETH.
Dydd Llun, Tachwedd 18fed, yn dra sydyn, bu farw Mr. Thomas Roberts, Bryn Ffynon, Er's rhai blynyddau bellach yr oedd yn amlwg fod ei iechyd wedi gwanhau, ond yr oedd o ran ei ysbryd i raddau yn parhau yn ieuanc.Yr oedd yn gymeriad diddan, gonest, a gwreiddiol iawn, ac yn gampwr am wneud cewyll at wasanaeth fferm. Yr oedd yn aelod ffyddIon a haelionus o eglwys Ebenezer (M.C.), ac ymddengys i'r adfywiad crefyddol diweddaf effeithio llawer iawn arno.
Claddwyd dydd Iau yn mynwent Abererch.
Cydymdeimlwn yn ddwfn a'i briod yn ei phrofedigaeth.