Tal am Borfa Ceffyl.

Hawliai David Price, Cil Llidiart, Fourcrosses, 4p 8s 6c yn Llys Sirol Pwllheli, oddiar Miss Gwendoline Heigh, Glandwr Mills Cottage, Dogelley, am le i geffyl i bori.

Dywedai Mr Cradoc Davies ar ran yr hawlydd ei fod yn hawlio tal am 27 wythnos. Dadleuai Mr William George ar ran y ddiffynyddes fod y ceffyl mewn cyflwr drwg pan roddiwyd ef i fyny.

Wedi gwrando tystiolaethau rhoddodd y Barnwr ddyfarniad ym mhlaid yr hawlydd am 3p 15s sef 2s 6c yr wythnos am y cyfnod a nodwyd.

Herald Gymraeg 12/05/1914


PWLLHELI COUNTY COURT COMPENSATION CASES.

This court was held on Tuesday, before his Honour Judge Wm. Evans. Thomas Williams, Penlan Street, for whom Mr O. Robyns Owen appeared, sued David Price, Cil-llidiart, for the return of money paid him on account of the purchase of a horse.

Mr W. Cradoc Davies defended.

Mr Robyns Owen, in opening the case, said that Williams wanted a horse that would work in single and double harness, and the defendant intimated that his horse would suit him all right. The animal was bought in the belief that it would work satisfactorily, but when plaintiff took it home he found that it was a jibber.

Just when Mr Owen was about to finish his opening statement the plaintiff, who was with the witnesses outside the court, opened the door, popped his head inside, and shouted, "The case is settled." The Judge, advocates, and all in court roared with laughter, in which Mr Owen joined.

The case was then stopped and struck out.

North Wales Chronicle 06/11/1914


LLYS SIROL PWLLHELI.

Cynhaliwyd ddydd Mawrth, gerbron. y Barnwr W. Evans.

SETLO TU ALLAN I'R LLYS.

Hawliodd Mr. Thomas Williams, Penlan Temperance, Pwllheli, y swm o 15p oddiar Mr. David Price. Cil Llidiart, Fourcrcsses, sef y pris a dalodd am gaseg i'r diffynydd ar y dealltwriaeth ei bod yn hwylus i weithio, ond gan yr honai nad oedd i fyny a'r cytundeb bu iddo ddychwelyd y gaseg yn ôl ac yn awr erlynai y diffynydd am yr arian.

Ymddangosodd Mr. O. Robyns Owen dros yr hawlydd, a Mr. Cradoc Davies dros y diffynydd, ac yr oedd tua 30 o dystion yn yr achos.

Pan oedd Mr. Robyns Owen ar ganol agor yr achos agorwyd y drws a dywedodd yr hawlydd wrth ei gyfreithiwr eu bod wedi setlo yr achos yn y drws.

Casglodd y cyfreithwyr eu papurau ynghyd yng nghanol chwerthin mawr, yn yr hwn yr ymunai y Barnwr.

Herald Gymraeg 10/11/1914