LLWYNDYRUS MARWOLAETH.

Gyda chalon drom yr ydym yn cofnodi am farwolaeth y brawd ffyddlon a'r cymydog tawel Robert Evans, Pen y maes, Llwyndyrus, yr hyn a gymerodd le yn sydyn ac anisgwyliadwy, Rhagfyr 17eg, yn 52 mlwydd oed.

Collodd Eglwys Llwyndyrus un o'r colofnau cadarnaf o dan yr arch, a chollodd ei fam oedranus, yn ei henaint a'i gwaeledd ei chysgod a'i chysur yr ochor yma i'r bedd. Llanwodd y swydd o ddiacon am ddeunaw mlynedd yn yr Eglwys, yn ffyddlon a gweithgar, fel ei dad. Credai fel yr Apostol fod elw mawr wrth wasanaethu Iesu Grist. Gwnaeth yn ddoeth o'i ddiwrnod gweithio. Cafodd ei fagu yn yr Eglwys, a chadwodd ei lwybrau yn lan hyd ei fedd.

Hebryngwyd ei babell bridd i fynwent Capel Helyg.
 
I ddisgwyl bore braf yr adgyfodiad,
Bore gwyn i deulu Duw.

Gwasanaethwyd yn effeithiol yn y tŷ gan y Parch. Robert Jones, Rhosfawr, ac wrth y bedd gan y Parch. William Jones, M.A., Fourcrosses. Rhoed ei babell frau i orffwys yn y pridd, gan O Jones, Cefnpentra, (brawd ynghyfraeth), Lewis Williams, cyd-swyddog, John M. Davies, (cefnder), R. D. Jones (cefnder), John Roberts, (ewyrth), David Jones, Meirion House, Pwllheli. Trefnwyd yr angladd gan Mr. Edward Williams, Glasfryn House, Pwllheli. Blaenorid y cerbydau gan Dr. Wynne Griffith, Pwllheli.

Ffarwel yma gyfaill anwyl,
    Mwy ni'th welwn gyda ni,
Ond er gadael pawb, a marw,
    Hyderaf fod o 'n elw i ti;
Disgwyl ry'm cawn eto'th weled
    Mewn gwisg newydd ganaidd iawn.
Ac y cawn ni gyd folianu
    Am ein prynu un prydnawn.

D. C. Jones, Llwyndyrus.

Yr Udgorn 03/01/1917