ER COF AM MRS JANE PRICE, CIL-LLIDIART.
Gwyrodd ei phen cyn henoed,—y wraig ddaRywiog ddoeth-mysg cyfoed;
Hynod ran iw henaid roed,
Hyd adra' rhodiai 'i deudroed.
Dydd Mawrth yr 21ain cyfisol bu farw y chwaer uchod yn ei phreswylfod yn 59 mlwydd oed. Claddwyd ei gweddillion yn Mynwent St. Cawrdaf, Abererch ddydd Sadwrn y 25ain.
Unig ferch ydoedd i'r diweddar Mr a Mrs Evan Williams, Llwyndyrus, o'r un plwyf, a phriod Mr. David Price, Cil-llidiart.
Dioddefodd rai mis oedd o gystudd blin yn ddistaw, ac yn amyneddgar, wedi dod i ddeall nad oedd y diwedd yn bell. Er pob ymdredh i gael meddyginiaeth, buwyd yn aflwyddianus. Yr oedd nodweddion ei bywyd o ddechreu ei hoes yn tystio i'r byd ei bod yn adwaen y "Meddyg gwell." Cafodd ei gollwng yn dawel i'w freichiau, ac i fwynhau y cartref yr oedd a'i gwyneb arno.
Cydymdeimlir a'r perthynasau sydd yn hiraethu ar ei hol, sef ei phriod a mab, a merch sydd yn amddifaid, ac hefyd ei brodyr, ynghyd a'r rhai ai hadwaenai yn y cylchoedd hyn.
Ond cerdded y llwybrau a gerddodd, nid ydyw yn anmhosibl ei chwrddyd eto. Bu yn ffyddlon i'r ddau fyd.
Yr Herald Gymraeg Dinesydd 28/08/1917
Marw.
Prynhawn Mawrth, y 21ain cyfisol yn ei phreswylfod, bu farw Mrs Jane Price, annwyl briod Mr David Price, Cil Llidiart, ac unig ferch y diweddar Mr a Mrs Evan Williams, Llwyndyrus, yn 59 mlwydd oed. Cafodd rai misoedd o gystudd maith a chaled; ond dioddefodd yr oll yn dawel fel un yn addfedu yn ddyddiol i'r byd lle nid oes poen na thristwch.Yr oedd yn aelod ffyddlon o egIwys Ebenezer (M.C.) er pan yn ieuanc iawn, ac wedi bod yn ffyddlon a thuhwnt o haelionus at bob adran o waith yr eglwys. Hefyd yr oedd yr un mor ffyddlon i'r Ysgol Sul ac i'w dosbarth gyda'i hathraw. Hefyd byddai bob amser yn llafurio llawer gogyfer a'i Dosbarth yr hyn oedd yn ei gwneud yu dra defnyddiol a thrwy hynny gwelir y golled o'i cholli yn fwy.
Yr oedd yn wraig rinweddol, ac wedi ennill parch ac edmygedd pawb o'i chydnabod a'r cylch arferai droi ynddo. Yr oedd yn meddu ar galon haelfrydig at y tlawd a'r anghenus a chyda llawer o bethau eraill rhy niferus i'w henwi. Yr oedd ei bywyd a'i rhinweddau yn dod fwy i'r golwg i'r ardal yn ddyddiol. Yr oedd yn un o'r chwiorydd mwyaf diwylliedig ac ymroddgar o eglwys Ebenezer, ac yn ddios teimlir chwithdod yn yr eglwys a'r holl ardal.
Dodwyd hi i orffwys ym mynwent St. Cawrdaf. Abererch.
Gedy i alaru ei phriod a mab a merch, gyda'r rhai y cydymdeimla yr holl ardal.