MARW GOFFA (MRS. ELLEN LEWIS, TYDDYN CESTYLL, ABERERCH.
Am Ellen er trwm alaeth,—y rhoddirHaeddol goffadwriaeth;
Diwyllio'n wiw ei deall wnaeth
Byw ydoedd o wybodaeth.
Glan fel y teg oleuni—drwy einioes
Dra anwyl ei theithi;
Ei hanian, a'i hamcan hi
A'i dawn, oedd gwneyd daioni.
Merch ydoedd yr uchod i Mr. a Mrs. Griffith, Tan y Braich, Garn Dolbenmaen, Eifionydd. Brawd iddi oedd y Parch Owen Griffith (Giraldus), golygydd "Y Wawr," Americanaidd am gyfnod maith ac hefyd yn weinidog gyda'r brodyr parchus y Bedyddwyr. Brawd arall iddi ydoedd Mr. Evan Griffith (leuan Dwyfach), bardd adnabyddus i gylchoedd eang. Ceir englynion, awdlau, etc., o'i eiddo mewn lluaws o gylchgronau. enillodd amryw o wobrwyon cystadleuol, pan y byddai cynyrchion prif-feirdd ei oes yn cael eu pwyso yn yr un clorianau. Yr oedd rheolau cerdd- dafod yn ail natur iddo. Cynghaneddai yn rhwydd a chywir ar unrhyw destyn, ehedai ei ddrychfeddyliau fel yr eryr a'i adenydd wedi eu gwisigo a gwrid y lili. Amaethwr ydoedd wrth ei alwedigaeth, a gwr duwiol yn ôl barn y rhai a'i hadwaenai oreu ac yn Fedyddiwr o'r iawn ryw. Ceir crynhodeb llawn o'i fywgraffiad ar ei fedd-faen, o eiddo Dewi Mai o Feirion.
Meddai Mrs. Lewis ar yr unrhyw dalentau, a rhinweddau a'i brodyr. Pan oddeutu 23ain mlwydd oed, priododd a Mr. Evan Jones Lewis, a gwnaethent eu cartref yn gysurus yn Tyddyn Cestyll, Plwyf Abererch, - amaethwr cyfrifol, a gwr ffyddlon a llafurus gydag achos crefydd, - yn ddiacon gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Llwyndyrus.
Er fod ei phriod yn aelod gyda'r Bedyddwyr teilwnig yw i hon y geiriau "Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth." Gwrandawodd yn astud bob cyfle a gafodd yn Nghapel y Methodistiaid. Bu yn aelod gyda'r parchus Fedyddwyr yn Tyddyn Shon, am oddeutu hanner cant o flynyddoedd. Cafodd iechyd da; ni chollodd un cyfarfod pregethu blynyddol a gynhaliwyd yn ei hardal am yr haner canrif. Yr oedd ei llaw yn agored bob amser i gyfranu i pa enwad bynag a ofynai ei help. Darllenodd lawer o gylchgronau, y gwahanol enwadau gyda blas, meddai ar gof helaeth, ac yr oedd yn alluog i gymeryd meddiant o'r da, yn mha fan bynag y'i caffai.
Ond y Beibl oedd ei phrif lyfr. Darllenodd hwn drosodd droion, a chredodd yn ddiysgog yn ei holl athrawiaethau. Ni chafodd culni le i lechu yn ei mynwes. Cofiaf iddi unwaith fynegi ei rheswm dros fod yn aelod gyda'r Bedyddwyr. Nid am fod ei rhieni felly, a'i bod wedi ei dwyn i fyny gyda'r enwad o'i hieuenctyd, ond am mai felly yr oedd hi yn deally Testament Newydd.
Bu farw mewn tangnefedd, Ebrill 22, yn 74 mlwvdd oed, a chladdwyd hi y dydd Llun dilynol (angladd anghyhoedd yn ol ei dymuniad, ym Mynwent St. Beuno. Carnguwch, yn yr un bedd a'i phriod. Y prif alarwyr oeddynt, Mrs. Thomas Rees Thomas, Bwlch v Ffordd, Chwilog, a Mr. Evan, Rees Thomas, yr hwn oedd yn aros gyda'r ymadawedig i amaethu Ffarm Tyddyn Cestyll. Iseifion.