FOURCROSSES PRIODAS BOBLOGAIDD.

Dydd Mercher, Mai 24ain, 1916, yn Nghapel Ebenezer, Fourcrosses, gan y Parchn W. Jones, M.A., ac R. Jones, Rhosfawr, unwyd yn y cwlwm priodasol Mr Evan Rees Thomas, Tyddyn Cestyll, a Miss Maggie Evans, Ty Du. Yr oedd cynulliad parchus yn y capel yn ystod y seremoni. Edrychai y pentref yn hynod fywiog gan y llu banerau, a dangoswyd dyddordeb mawr yn yr amgylchiad.

Gwasanaethid ar y briodferch gan Miss Blodwen Rees Thomas a Miss Jennie Rees Thomas, ac ar y priodfab gan Mri Christmas a Walter Evans, Ty Du. Yr oedd cyfeillion eraill amryw yn gwneud i fyny y cwmni priodasol - Mr T. Rees Thomas, Bwlchyffordd, tad y priodfab Mr Lewis G. Lewis, Hafodlas, Mr W. Jones, Ty Du Isaf, Mr W. J. Parry a Mrs Parry Miss Williams, Caernarfon, Miss Ellen Jones, Post Office, Miss Evans, Pwllheli, a Miss Ella Rees Thomas, &c.

Ar ôl y seremoni aeth y cwmni i dri motor car, a chyn cychwyn rhoddwyd iddynt rwydd hynt mewn banllefau o hip, hip hwre, gan gynulliad o'r plant o'r ysgol ddyddiol. Darparwyd y ciniaw yn y Bee Hive Cafe, Carnarvon, a dilynwyd gan anerchiadau, &c. Darllenwyd y darn canlynol hefyd oddiwrth Ceridwen Peris :-

Lwc dda," lwc dda," medd ardal
Fourcrosses yn gytun-
Boed llwyddiant heb ei hafal
O fewn y fodrwy gun;
Banerau lu a chwyfiant
Eu croesaw yma a thraw.
A'r heirdd anrhegion brofant
Serch cywir ar bob llaw.
 
Er bod yn nghanol rhyfel
A'i hanes tywyll prudd,
Rhaid llawenhau yn dawel,
Hwn yw eich hapus ddydd
Cewch gychwyn bywyd newydd
Yn Tyddyn Cestyll hardd,
A rhodio gyd a'ch gilydd
Hyd faesydd sydd fel gardd.

Wel, nef fo yn eich arwain
Bob dydd ar hyd eich oes,
Y cwmwl, pan dan haulwen,
A cholofn dan y nos;
Boed amlwg eich duwioldeb
Tra'n rhodio daear lawr,
A hir fo'ch defnyddioldeb
O blaid yr Achos Mawr.
CYFAILL.

Yr Udgorn 31/05/1916