MARW.
Boreu Sadwrn, Mawrth 27ain, bu farw Mr. Thomas Jones, Ysguborwen, Rhosfawr.Yr oedd yn gymydog caredig, ac yn gymeriad gonest.
Yr oedd hefyd yn un o ddiaconiadd Eglwys M.C. Rhosfawr, ers rhai blynyddau bellach, ac yn hynod ffyddlon gyda'r achos yn y lle. Chwith iawn gan lawer ei golli.
Claddwyd ddydd Mawrth, 30ain, yn St. Cawrdaf, Abererch.