PRIODAS.

Ddydd Mercher, Tach. 3ydd, yng nghapel Penmount, Pwllheli, gan y Parch. Robert Jones, Rhosfawr, yng ngwydd Mr Rees T. Pritchard. cofrestrydd, Chwilog, unwyd mewn glan briodas Mr Richard Matthias Hughes, Eifl Road, Trefor, a Miss Claudia Jones, Ysgubor Wen, Fourcrosses.

Mr Richard. Thomas, 3, Sea View, Trefor, oedd y gwas priodas, a chynorthwyid ef gan Mr Griffith Jones, brawd y briodferch. Miss Ann Jane Hughes chwaer y priodfab, a Miss Jane Aln Jones, chwaer y briodferch, oedd y morwynion.

Rhoed Hughes mewn undod a Claudia-minau
Ddymunaf fy ngora';
Gwên lawen dan heulwen ha'
I arfer hirfaith yrfa.

Tangnefedd hyd fedd a fyddo—i'r ddau,
A rhwydd iawa gyd-uno;
Haid o blant yn ddibaid bo
O'u cwmpas hwy yn campio.
R. R. THOMAS.
 

Yr Udgorn 10/11/1915