PLENTYN YN LLOSGI I FARWOLAETH YN LLEYN.
Nos Fercher, bu i Mr. O. Robyns Owen, trengholydd, gynnal trengholiad i achos mar wolaeth Nellie Moore, geneth fach bump mlwydd oed i Mr. a Mrs. Davrid Moore, Bryntirion Terrace, Rhoshirwaen.Ymddengys yn ôl y tystiolaethau fod mam y drancedig wedi galw yn nhy cymydog prydnawn Llun gan adael yr eneth fach a'i chwaer dair blwydd oed, yn y tŷ. Yr oedd eu tad yn gweithio yn Rhiw. Digwyddodd Mr. Owen Roberts. Llyngelid fod yn pasio pan redodd yr eneth fach allan a'r fflamau wedi amgau am dani. Llwyddodd Mr. Roberts i ddiffodd y tan a daeth y fam i'r lle wrth glywed y gwaeddi.
Galwyd Dr. Hughes, Bottwnog i'r lle, ond bu'r eneth bach farw er pob ymdrech yn mhen deng awr. Dywedid fod y fam wedi gwneyd tan yn y siamber am ei bod ym oer. Yr oedd y grat yn isel ac nid oedd cysgod am dano.
Pasiwyd rheithfarn o farwolaeth mewn canlyniad i'r llosgi. Sylwodd y Crwner fod yn resyn na wnai rhieni gadw cysgod i ddiogelu y plant rhag y tân.
Cydymdeimlir yn fawr a'r trallodedig yn eu galar.