MEWN OEDRAN TEG.

Boreu Gwener diweddaf bu farw Mrs Sarah Williams, Penybryn, a hi yn 81 mlwydd oed.

Yr oedd Mrs Williams yn foneddiges wirioneddol drwyddi yn ngwir ystyr y gair, a chanddi lu o gyfeillion hoff ar gyfrif yr hynawsedd hwnw oedd yn ei chymeriad. Cafodd fyw yn hen, a harddodd Iwybr ei throed bob cam o'r daith.

Cymerodd yr angladd (anghyhoedd) le ddydd Llun yn mynwent Bodfean. Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch. J. Parry Hughes, Morfa Nefyn, ac yn y fynwent gan y Parch. J. Salt, B, A., Bodfean. Yr undertaker ydoedd Mr Evan Jones, Shop Caerhydderch, Pwllheli.

Cydymdeimlwn a'r teulu yn eu profedigaeth lem.

Yr Udgorn 08/11/1916