MARW GWRAIG HYSBYS.

Ddydd Llun, Ebrill 8fed, bu farw y wraig rinweddol ac hysbys Mrs Jane Williams, priod Mr Hugh Williams, Frochas, a hi yn 69 mlwydd oed.

Gwraig dawel ac addfwyn o ysbryd ydoedd, a'i charedigrwydd yn ymestyn yn eangach na chylch ei hardal. Bu'n briod a mam dirion yn y cartref, a hoffid hi gan bawb oherwydd llwyredd ei dynoliaeth.

Cymerodd y gladdedigaeth gyhoeddus le, yr hon oedd anarferol o luosog, ddydd Gwener yn mynwent Chwilog. Gwasanaethwyd gan y Parchn. Owen Pritchard, Nefyn, a Robert Jones, Rhosfawr.

Cydymdeimlir yn fawr a'i phriod a'r plant yn eu profedigaeth chwerw. Yr oedd y trefniadau o dan ofal Mr Evan Jones, Shop Caerhydderch, Pwllheli.

Yr Udgorn 17/04/1918