DEWRDER MILWR O LEYN.
Lladd 60 o'r Gelyn tra Wedi Ei Glwyfo.
Cafodd Private William Jones, mab Mr a Mrs Jones, Penygongl, Bodfean, brofiad dychrynllyd ym ystod yr ymladd yn Ffrainc a dangosodd wroldeb anarferol trwy ladd tri ugain o'r gelynion tra yr oedd ei goes wedi ei malurio, ac yn dioddef oddiwrth amryw fwledi. Dyma fel y sisgrifia efe y gyflafan mewn llythyr i'w rieni o'r ysbyty yn Hastings."Cefais fy nghlwyfo ar y 15fed o'r mis hwn (Ebrill) - anrheg neis ar ben fy mlwydd, onide ? Lladdwyd bron yr oll o fy mattalion. Rhoddwyd 70 ohonom i gadw ffordd tua haner milltir o hyd. Nid oeddym yn dychmygu am ymosodiad. Boreu Sul bum i a deg arall a swyddog ar yn y German line. Y noswaith flaenorol aethom i fyny i'w barbed wired a thrwodd ar ein hyd ar y ddaear i fyny at eu trenches. Gwelsom nad oedd olwg am ymosdiad, a daethom oll yn ôl yn ddiogel. Modd bynag, pan oeddwn ar droi i fy dug-out daeth ,orchymyn fod y Germans yn dod trosodd. Yr oedd hyn ar doriad dydd, a daeth tua pedair mil ohonynt drosodd.
Roedd ein hadgyfnerthoedd yn rhy bell yn ôl i'n helpu ar unwaith; felly cawsom y gwaethaf ohoni. Lladdwyd peth ofnadwy ar bob ochr. Cefais fwled yn fy mhoced ac un arall yn fy nghefn. Roedd gormod o nifer yn ein herbyn, fel bu raid ini roddi fyny a chymerwyd ni yn garcharorion. Ond, ar y foment hono, disgynodd shell a malodd fy nghoes a dyma fu yn foddion i arbed fy mywyd.
Cymerwyd Fred (ei gyfaill) yn garcharor ynghyd a'r gweddill. Aeth y Germans a'r carcharorion i ffwrdd ychydig latheni, a saethwyd hwy oll mewn gwaed oer.
Yna aethom ninnau, y rhai clwyfedig i geisio symud a dechreuasom danio ar y barbariaid.
Cefais afael ar machine gun a lleddais tua 60 ohonynt. Wedyn daeth ein artillery i'n hachub a lladdwyd tua 4000 o'r Germans a therfynodd y dydd mewn buddugoliaeth i ni."
Canmola ei fold yn cael pob gofal yn yr ysbyty a'i fod ar y ffordd i wella ond y cymer tua chwe' mis iddo gwbl wella.