Tribynlys Pwllheli.
Cynhaliwyd yr uchod yn y Neuadd Dretol, nos Fawrth. Yr oedd yn bresenol Mr, G. Cornelius Roberts (Cadeirydd), Dr. R. Jones Evans, Mri. Robert Murray, Richard Roberts, John Ellis (Clerc), G. F. Yale (Cynrychiolydd Milwrol).ACHOS MAB.
Apeliai Mr. Thomas Williams, Bodfean, am esgusodiad i Thomas J. Williams, ei fab, rheolwr Mineral Water Works yn Mhwllheli.Dywedai yr apelydd ei fod ef a'r teulu yn dibynu ar y gwaith, ac nas gallai neb arall i'w gyflawni.
Mr Arthen Owen : Yr ydych yn byw mewn fferm ac wedi ymneillduo o'r mor, ac yr ydych yn dweyd eich bod yn dibynu ar y busnes hwn?
Yr apelydd : Ydwyf.
Mr. Owen : Paham na chyflogwch ferched i wneud y gwaith?
Yr apelydd : Nis gallant ei gyflawni.
Mr. Owen : Os ydynt yn llwytho glo a gwaith caled felly yn sicr gallant wneud y gwaith hwn.
Esgusodwyd hyd Rhagfyr 31ain, yn derfynol.
Yr Udgorn 15/11/1916
MARW CAPT. WILLIAMS, TY'NCOED.
Boreu dydd Iau, yn dra disymwth, bu farw Capt. Thomas Williams, Ty'ncoed, ac efe yn 67 mlwydd oed. Yr oedd Capt. Williams yn ŵr hysbys yn y cyhoedd, ac yn un a berchid fel boneddwr gan wreng a bonedd. O ran ei neilltuolion personol ceid ef yn un tawel a dihymongar, ac un y gellid yn hawdd wneud cyfaill calon o hono oherwydd didwylledd ei natur.Ymneillduodd o'r môr er's blwyddi bellach, a chadwai fasnach eang a phwysig yn Mhwllheli.
Gedy o'i ôl weddw a phedwar o feibion, tri o ba rai sydd yn y Fyddin, a dau o'r cyfryw yn swyddogion ynddi.
Cymerodd y gladdedigaeth gyhoeddus le, yr hon oedd un o'r rhai lluosocaf a welwyd yn yr ardal un amser, ddydd Llun yn mynwent Bodfean. Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch. G. Pairy Hughes, Morfa Nefyn, ac yn y fynwent gan y Parch. G. Salt, Ficer. Cydymdeimlir yn ddwfn a'r teulu yn y brofedigaeth drist.
Yr oedd trefniadau'r angladd yn nghofal Mr Evan Jones, Shop Caerhydderch, Pwllheli,