MARWOLAETH.

Ddydd Gwener diweddaf, wedi cystudd byr, bu farw Mr. Evan Griffith, Mathan lsaf, yn 48 mlwydd oed.

Hebryngwyd ei weddillion i orphwys yn mynwent Bodfean heddyw (ddydd Mawrth) angladd anghyhoedd.

Yr Udgorn 28/01/1914


MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.

Dydd Gwener, Ionawr 23ain, bu farw Mr. Evan Griffith, gynt o Mathanisaf, yn yr ardal hon, ond yn ddiweddar o Riverside, ger Pwllheli, ar ôl ond wythnos o gystudd,. yr hyn sydd yn dywedyd wrthym yn eglur mor agos yw y byd mawr tragwyddol a ninau i'n gilydd.

Yr oedd yn dilyn ei waith yn Bodfean Hall hyd yr wythnos olaf yna. Claddwyd ef y dydd Mawrth dilynol yn mynwent Eglwys St. Buan.

Yr Arglwydd a fyddo yn nodded i'w weddw a'i hunig fachgen.

Llan 06/02/1914