LLYS YNADON PWLLHELI. CYHUDDIAD O YMOSOD.

Cynhaliwyd yr uchod dydd Mercher, gerbron Mri. J. Griffith Jones, yn y gadair G. Hughes Roberts, Griffith Evans, a Dr. S. W., Griffith.

Cyhuddai Morris Griffith, Mur Serchog, Bottwnog, Thomas Williams, Pen-y-bryn Llaniestyn, o ymosod arno.

Ymddangosodd Mr, Caradog Davies ar ran yr achwynydd, a Mr, W. George ar ran y diffynydd.

Tystiodd Morris Griffith ei fod, Medi 16eg, yn myned ar hyd y ffordd gyda llwyth o yd. Gydag ef, hefyd, yr oedd ei was, John Williams. Gwelsant y diffynydd yn dyfod i lawr yr allt i'w cyfarfod ar fisycl. Galwodd ar y ci i sefyll o'r tu ôl, ac ar hyny daeth y diffynydd heibio, gan daraw y ci.

Yr oedd yn gyru yn orwyllt, ac wedi myned yn mlaen am beth pellder dyma y diffynydd yn disgyn ac yn rhoddi ei fisycl ar y clawdd, yn dyfod yn ôl atynt yn fygythiol iawn, yn arfer iaith anweddus. Gofynodd paham na wnai gadw y ci o'r ffordd.

Dywedodd ef wrtho nad oedd ganddo mo'r help, ac ar hyny dyma y diffynydd yn ei daraw yn ei lygaid, ac ymosod arno yn greulawn iawn.

Mewn attebiad i Mr, W, George gwadodd mai efe a ymosododd gyntaf ar Williams, ac na syrthiodd y diffynydd oddi ar ei fisyoi mewn canlyniad i'r ci fyned yn ei erbyn.

Cadarnhaodd John Williams dystiolaeth ei feistr, a dywedodd i'r diffynydd daraw ei feistr ddwywaith. Mewn amddiffyniad dywedodd Williams i'r ci redeg i'w fisycl, ac iddo yntau syrthio i lawr nes malurio y peiriant. Wedi codi i fyny, ac edrych o gwmpas, gwelai Morris Griffith yn pwyso ar ei ffon ac yn chwerthin. Cythruddwyd ef gan yr ymddygiad, ac aeth ato i ofyn pa ham na chadwai well rheolaeth ar y ci, ac ar hyny cododd ei ffon, gan ei daraw ef. Tarawodd yntau ef yn ôl. Yr achwynydd ddechreuodd yr helynt. Nid oedd dim wedi bod cydrhyngddynt o'r blaen.

Yna cyflwynodd Mr. George dystysgrif feddygol, yn profi fod y diffynydd yn dioddef oddi wrth ffitiau, a.y.

Dirwywyd i 20s.

Baner ac Amserau Cymru 11/10/1919